Clwb Golff Dinbych yw un o drysorau cudd gogledd Cymru, ac rydym yn hyderus y byddwch wrth eich bodd gyda’r cwrs, cyflwr ac amrywiaeth y tyllau; edrychwch ar ein 9fed twll, her go iawn am bar 3!!
O fethu cael twll mewn un, cewch gysur o weld golygfeydd ardderchog dros Ddyffryn Clwyd.
Yma, yng nghlwb golff hanesyddol Dinbych, rydym yn falch o groeso cynnes ein clwb a chyflwr ardderchog ein cwrs. Ar ôl eich rwond, cewch ymlacio a mwynhau y golygfeydd panoramig o Fryniau Clwyd i lawr i’r arfordir ar y naill law a’r ucheldir amrywiol ar y llall.
Mae gan Glwb Golff Dinbych 18 twll, cyfleusterau ymarfer a golffdy canolog. Bydd staff gwybodus a chefnogol wrth law i ofalu am eich anghenion. Derbynnir pedwarawdau, grwpiau, dyddiau i gwmniau a chymdeithasau 7 diwrnod yr wythnos, os yw’r cwrs ar gael.
Bydd eich cyswllt cyntaf gyda’n Pro PGA Ben Brierley, sy’n brofiadol iawn ac yn barod i’ch cynorthwyo gydag unrhyw anghenion am offer ac ati yn ystod eich ymweliad.
Ar ôl eich rownd, gall ein Arlwywr Cliff Roberts ddarparu bwyd ardderchog yn ein golffdy cyfforddus a chartrefol.
Dyma fwy o fanylion am Pwy yw Pwy yng Nghlwb Golff Dinbych.