Ben Brierley | Pro PGA | Tel: 10745 816669
Daeth Ben atom fel Pro y Clwb yn 2014 ac mae’n boblogaidd eisoes gyda’n haelodau. Mae ganddo brofiad helaeth o hyfforddi a dewis offer ar ôl treulio dros 10 mlynedd gyda Foregolf a’r 2 flynedd olaf yn dewis offer i Cleveland a Srixon.
Mae Ben yn dal i fwynhau cystadlu yng nghystadlaethau safle teilyngdod Adran y Gogledd o’r PGA ac yn mynd â’n haelodau i chwarae pro-am, gan gynnwys y pro-am tramor ym Mhortiwgal.
Mae ganddo fynediad i holl frandiau’r diwydiant golff, yn ogystal â gwefan arlein eCommerce gyda phrisiau cystadleuol iawn (cliciwch yma)
Cynhelir pob dewis clwb yn yr ystafell swingio dan-do gan ddefnyddio GC2 i ddewis yn fanwl y clwb cywir o ran siafft, safle a hyd. Bydd pawb hefyd yn derbyn gwers AM DDIM unwaith y bydd eu clybiau newydd wedi cyrraedd.
I Logi dewis clwb neu Wers galwch 01745 816669 neu e-bost at professional@denbighgolfclub.co.uk